Diddily Dee Dot's Dreamland for Children Everywhere Ffordd Llyfr
DIDDILYDEEDOT'S DREAMLAND
LLYFRE DEL
THE CRAIG-Y-DON BLACKSMITH.
Once upon a time an old blacksmith lived in an old forge atCraig-y-don, and he used to drink a great deal too much beer. One
night he was coming home from an alehouse very tipsy, and as he got
near a small stream a lot of little men suddenly sprang up from the
rocks, and one of them, who seemed to be older than the rest, came up
to him, and said, "If you don't alter your ways of living you'll die
soon; but if you behave better and become a better man you'll find it
will be to your benefit," and they all disappeared as quickly as they
had come. The old blacksmith thought a good deal about what the
fairies had told him, and he left off drinking, and became a sober,
steady man. One day, a few months after meeting the little people, a
strange man brought a horse to be shod. Nobody knew either the horse or
the man. The old blacksmith tied the horse to a hole in the lip of a
cauldron (used for the purpose of cooling his hot iron) that he had
built in some masonry. When he had tied the horse up he went to shoe
the off hind-leg, but directly he touched the horse the spirited animal
started back with a bound, and dragged the cauldron from the masonry,
and then it broke the halter and ran away out of the forge, and was
never seen again: neither the horse nor its master. When the old blacksmith came to pull down the masonry to rebuild it, he found three brass kettles full of money.
Diddilydeedot's Dream-land
LIMRIGAU CYMRAIG
(Welsh Limericks)
Manyldeb
Rhyw fachan disymwth yw Dai. Mi ddywedodd rhyw fore, "Good-bye," Wrth ei wraig fach a'i blant, A mi baglodd hi bant. Mae e'n byw erbyn hyn yn Shanghâi!
"Na, na, Mrs Jones, rych chi'n rong. Nid "Good-bye" ddwedodd e, ond "So-long", Ac enw y lle, (Tai fater, yntê), A dywedyd yn iawnm yw Hong-Kong !".
Festina Lente !
'Roedd bachgen yn Rhos-llannerch-rugog Yn gwthio drwy'r clawdd mewn lle brigog. Gwaeth ormod o frys, A gadawodd ei grys Yn rhecsyn ar ben weier bigog.
Ymson Y Chwennen.
Ebe'r chwannen, "Mae eto yn nosi. Cryn dipyn o boen 'rwy'n achosi. Fy nhynged o hyd, Tra fyddwy'n y byd Yw peri dynoliaeth i gosi".
Bessie
Hen groten fach annwyl yw Bessie ! A wyddoch chwi, fechgyn, be' wnes i ? Es â hi lan, ar fy ngair, Ar y swings yn y ffair, A swinges hi lan - yps-y-desi !
Edrych yn nes adref
Os mai tywyll yw gwyr Honolulu, Os mai du ydyw'r Kaffir a'r Swlw, Mae 'na ddynion mor ddu Tan ddaear, 'lwch chi, Ym Merthyr new Ynysybwl, w.
That was so much fun.
Diolwch yn Fawr
LLYFR DEL
Cosyn Melyn Bach yn Mynd i Nôl Burum i Mam
Little Yellow Rose is going back to Mother Yeast Gan, Gwilym Roberts
Cosyn Melyn Bach yn mynd ar daith go bell i nôl burum i mam, ac mi ddoth
ar draws dyn yn torri [gwair]. [Yna ar draws dyn yn torri clawdd.]
'Ble rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?' medde'r dyn oedd yn torri clawdd.
'I nôl burum i mam', medde fo.
A dyma'r hen ddyn 'ma'n trio hitio Cosyn Melyn Bach efo cryman.
'Wel, dwi 'di dod heibio dyn yn torri gwair, ac mi â'i heibio chitha,
os galla'i', medde Cosyn Melyn Bach. A dyma fo jymp yn 'i flaen . A mi ath am
bwl wedyn a dod ar draws dyn yn torri mawn. A dyma hwnnw'n gofyn:
'Lle rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?'
'I nôl burum i mam', medde fo, 'dwi wedi dwad heibio dyn yn torri gwair,
heibio dyn yn torri clawdd, ac mi â'i heibio chitha, os galla'i', medde
fo, felna. A dyma'r hen ddyn 'ma'n ceisio hitio Cosyn Melyn Bach hefo coes huarn
torri mawn.
A mi ath yn 'i flaen wedyn, ac odd hi'n dechre twyllu erbyn hyn. A dyma Cosyn
Melyn Bach yn dwad i ryw hen goed mawr, ac yn 'i flaen ath o, a dyma ryw hen
lew mawr yn dod i'w gwfwr o yn y coed 'ma. Dyma'r hen lew yn gofyn i Cosyn Melyn
Bach:
'Lle rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?'
'I nôl burum i mam', medde fo, felna.
'Tyrd ar fy nghefn i', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach.
'Na, na, wir', medyde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medde
fo, felna.
'Wel, tyrd ar fy ngwar i, 'te', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach.
'Na, na, wir', medde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medde
fo, felna.
'Wel, tyrd ar fy mhen i, 'te', medde fo wrth Cosyn Melyn Bach.
'Wel, tyrd ar fy nhrwn i, 'te', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach.
A Cosyn Melyn Bach wedi mynd rwan odd o'n crynu fel deilen, ac ofn ofnadwy,
a hithe'n dechre mynd yn nos. 'Tyrd ar fy nhrwyn i', medde'r hen lew 'ma.
'Na, na, wir', medde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medda
fo, felna.
A dyma'r hen lew 'ma yn neidio amdano fo, ac 'AWCH!', medde fo , felna, a
dyma fo'n llyncu Cosyn Melyn Bach. [Chwerthin]
LLYFR DEL - NICE LITTLE BOOK
Custom Search
diddilydeedotsdreamland .
WELL WE ARE IN WALES, SO I AM GOING TO ADD A LOVELY PLAYLIST OF TABALUGA, WHO WAS THE LAST DRAGON ON EARTH, AND WHO LIVED IN
THE KINGDOM OF GREENLAND
With the neighbouring Land of Ice on one side, and the Terrifying Land of Desert's on the other, little Tabaluga and his friends have plenty of work to do. There are three small playlists, each one with parts, 1 II and III, each one about 8-10 mins each, or roughly 35mins each complete story. They can be found on the wonderful You Tube, and if you type in tabaluga, seligor you can embed the link there or straight from the open website. Please don't remove or add to the video list as I have an Only Children very strict site policy.
Thankyou so much, Seligor's Castle and Diddily-dee-dot's dream-land. XXX
Llyfr Del
Ar Ystol y Gosb.
Chwi welwch Gwen yn eistedd ar ystol y gosb, dan ddirmyg mawr. Y mae y plant i gyd yn ei gweled yn y fan acw, a chap y cywilydd am ei phen Y mae ei chalon fach yn llawn; y mae'n edrych i lawr, ac yn rhoi ami ochenaid. Y mae'n cofio mor anwyl y'r oedd ei mam yn ei chusanu yn y bora, a daeth hiraeth maw'r arni am gael bod ar lin ei mam i wrando ar ryw ystori. Beth oedd Gwen wedi wneyd? Wel, a welwch chwi'r llechen sydd ar lawr yn ei hymyl ? Yr oedd yr athraw wedi peri iddynt lloiosogi 213 â 2. Yn oedd yn waith hawdd ac yr oedd pob yn wedi gwneyd ond Gwen. Y mai ei gwaith ar lawr wrth ei hochr, a hithau'n gorfod eistedd ar ystol y gosb, a chap y gwarth am ei phen.
Ond waeth heb son, ne fedrai Gwen ddim dysgu, er ei bod wedi treio ei goreu. Ond yr oedd yn un o'r genethod bach mwynaf a charedicaf yn yr holl wlad. Medrai ddweyd y gwir, medrai wneyd pob peth ddywedai ei mam wrthi, a medrai gadw ei brodyr bach yn ddiddig, - ac onid ydyw hyn yn llawer mwy na medru gwneyd sym ?
Beth yw ystyr y gair dunce sydd ar y cap ? Enw dyn ydyw, enw Duns Scotus. Ysgolhaig mawr oedd ef, ond daeth pobl eiddilach ar ei ol, a thybient nad oedd Duns yn ddim o'i gydmaru a hwy, a galwasant bawb byr ei ddeall yn dunce.
Gwn ll mae Gwen heddyw. Y mae ei chalon hael, garedig, yn ei gwyneyd llawer gwaith mil anhaws na "multiply 213 by 2."
Peth anodd ydyw dysgu; ond y mae plant bach ufudd yn siwr o ddysgu'n iawn, ond iddynt dreio, a chael digeon o amser.
Owen Morgan Edwards (26 December 1858 – 15 May 1920)
LLYFR DEL.
Mynd I Bysgota A Dod Adre
"Helo! holl blant y wlad, diwch yma i'm gweled i Yn mynd i ddal y pysgod sy'n nofio yn y lli; Mae'r enwar ar fy ysgwydd, a'r llinyn wrthi'n siwr, A dwr o fewn y llestr hwn, ac abwyd yn y dwr.
Mae gennyf fwyd ddigonedd o fewn y bwndel hwn, Waith treuliaf wrth yr afon y dydd i gyd yn grwn; Er cymaint ydyw'r Hafren, er amled ei physg hi, Heno os bydd un ar ol mae'n rhyfedd iawn gen i.
"Dof heibio wrth fynd adre a'm pysgod yn fy llaw Os medraf gario'r oll a ddaliaf yn yr afon draw; A byddwch chwithau'n dwedyd wrth weld fy nghawell llawn,- 'Wel, dyma wr bonheddig sydd yn bysgotwr iawn !"
Ar derfyn y dydd hwnnw eis heibio bwthyn hen, Ae i'r hen wr ar ben y drws gofynnais gyda gwen, - "Fy ewythr Edward William, a welsoch chwi fonedd - wr iawn, Yn mynd adre oddiwrth yr afon, a'i gawell pysgod yn llawn ?"
"Hm !" meddai'r henwr sychlyd, "me welais yn fy nydd, Do, lawer golwg ddigri, a llawer golwg brudd: Ond pasiodd creadur heibio ryw hanner awr yn ol Wnaeth i mi chwerthin, fachgen, nes tybiet 'mod i'n ffol.
Roedd bachgen Wil y teiliwr, un balch a drwg yw'r cna', Yn mynd adre o bysgota. A be gwelset ti o ? Ha ! Ha ! Ha ! Wrth edrych ar ei gyflwr, tybiaset ti yn siwr Fod y pysgod wedi ei ddai o, a'i dynnu o hyd y dwr."
Owen Morgan Edwards (26 December 1858 – 15 May 1920)
Hello to everyone out there who has knowledge of the Welsh language, from Patagonia to Australia, Spain to the USA, and don't foget my beautiful Wales as well. Here is a small collection of stories specially delivered to this page by Diddilydeedot's Dreamland. XXX LLYFR DEL(1906) rhodd Owen Edwards.
Owen Morgan Edwards (26 December 1858 – 15 May 1920) was a Welsh historian, educationalist and writer. He was often known as O. M. Edwards. Owen Edwards was born in Llanuwchllyn near Bala, the eldest son of Owen and Beti Edwards. Just down the road I live as the deryn ddu flies
He gives a vivid description of his early education in his autobiography Clych Adgof ("Bells of Remembrance") published in 1906. Llanuwchllyn was then and remains a strongly Welsh-speaking area, but the Welsh Not was in use at the local school and usually found itself round Owen's neck,as a punishment for speaking Welsh.He went on to change all this as his carreer developed. The first story "DEL" will explain some of this .
Llyfr Del DEL Mae teleffon yng Nghymru O wifren felen fain, Un pen y dderbyn straeon A'r llall i wrando 'rhain; Wrth un mae bod direidus, O straeon digri'n llawn, Wrth y llall mae bachgen boch-goch Yn ddifyr ddifr iawn.
Chwi glywsoch tam y telegraff ac am y teleffon. Dau air Groeg ydyw'r ddau air; yn Gymraeg eu hystyr ydyw, - y pell-ysgrifennydd a'r pell-seinydd. Pe baech chwi yn unn pen i'r telegraff a chyfaill yn y pen arall, fil o filldiroedd i ffwrdd, gallech wneyd i'r telegraff ysgrifennu eich meddwl yn y pen draw gyda eich bod wedi ei ddweyed. Y mae'r teleffon yn beth rhyfeddach fyth; gallwch siarad yn un pen iddo, y bydd eich cyfaill yn clwywed eich llais yn y pen arall. Meddyliwch am blentyn yn medru clywed llais ei fam, tra mae'r môr mawr rhyngddo a hi. Ond nid esbonio'r telegraff a'r teleffon yw fy amcan yn awr, ond dweyd stori honno y mae llawer o straeon ereill, - rhai na fydd yn hawdd iawn i chwi eu coelio hwyrach. Ond rhaid i chwi gofio fod llawer iawn o bethau rhyfedd yn y byd yma. Mi wn i am fachgen bach bochgoch tew. Un hoff iawn o chwaren oedd; ac yn swn plant y pentref i gyd, clywech ei swn ef yn uchaf. Mab i feistr y post oedd; Cadwaladr oedd ei enw iawn, ond Del y galwai pawb ef. Un llawn bywyd oedd Del; allan yn chware y byddai wrth ei fodd. Anodd iawn oedd ei gadw'n llonydd mewn na thy na chapel; chware, chware'r oedd Del o hyd . "Del ni ydyw'r gwaethaf yn y wlad," ebe ei fam, wrth dreio 'i gael i'r ty i fynd i'w wely, "un drwg iawn ydyw Del." Ond buase mam Del yn digio am byth wrthych pe coeliech hi. Gwrandewch arni'n siarad a'i bachgen wrth fynd ag ef i'r ty, - "Del bach ddrwg ei fam, 'does mo'i dlysach o yn y byd, na'r well o chwaith." Ryw dro daeth newid mawr dros fuchedd Del. Ni chlywid ei lais ym mysg lleisiau'r plant ereill, ni chwareuai gyda hwynt, nid oedd na blodenyn ar y caeau na brithyll yn y nant nac aderyn yn y gwrych fedrai ddenu sylw Del fel o'r blaen. Ni chydiai mewn pel, ni cheisiai ennill botyman, ac nid oedd yn hidio mewn marblen, hyd yn nod mewn marblen wydr fawr iawn o liwiau. Doi i'r ysgol i'r dim at amser dechreu; ae wedi amser gollwrng, ai adref ar ei union, ac ni welid Del y prynhawn hwnnw mwy. Yr oedd yn iach a llon, ond ni ddoi i chware. " Un rhyfedd iawn," ebe'r fam, "ydyw Del bach ni." O'r diwedd gwelwyd pam yr oedd Del yn y ty o hyd. Yr oedd wedi digwydd, ryw ddiwrnod, roi pellen y teleffon wrth ei glust, a chlywodd yr ystori ryfeddaf glywodd erioed. A phob dydd ai Del i ystafell y teleffon, a rhoddai'r bellan wrth ei glust, a chlywai stori newydd. Ni wyddai o ble doi'r ystraeon, tybiai mai rhyw angel bach, neu un blant y Tylwyth Teg, oedd yn eu dweyd wrtho yn y pen arall. Ond cewch chwi farnu pan glywch hwy.
Mae Del yn gwenu'n hapus, Fi ddwed y llygad llon Fod stori felusfelus Yn dod o'r bellen gron.
WELWCH chwi Nain a'i llygad mor llon ? A fuasech chwi'n meddwl mai hen wraig yw hon ? Papur newydd, a spectol, a chader fawr wen, - Nain ydyw honacw yn siwr, dyna ben. Na, sbiwch, nid ydyw y spectol yn syth, Ac fe ddelir y papur i fyny'r tu chwith; Er eiste'n lle Nain yn y gader wen fawr, - Dacw goesau rhy fyrion i gyrraedd y llawr. Nid Nain ydyw hon, Ond Gwen fach ddireidus a'i dau lygad llon.