|
Diddily Dee Dot's Dreamland for Children Everywhere Blog
|
|
Sat, 24 Oct 2009
|
Another little trip to Wales and Llyfr Del, this time it's a little girl called Gwen, who had to sit in the corner as a dunce
Ar Ystol y Gosb.
Chwi welwch Gwen yn eistedd ar ystol y gosb, dan ddirmyg mawr. Y mae y plant i gyd yn ei gweled yn y fan acw, a chap y cywilydd am ei phen Y mae ei chalon fach yn llawn; y mae'n edrych i lawr, ac yn rhoi ami ochenaid. Y mae'n cofio mor anwyl y'r oedd ei mam yn ei chusanu yn y bora, a daeth hiraeth maw'r arni am gael bod ar lin ei mam i wrando ar ryw ystori. Beth oedd Gwen wedi wneyd ? Wel, a welwch chwi'r llechen sydd ar lawr yn ei hymyl ? Yr oedd yr athraw wedi peri iddynt lloiosogi 213 â 2. Yn oedd yn waith hawdd ac yr oedd pob yn wedi gwneyd ond Gwen. Y mai ei gwaith ar lawr wrth ei hochr, a hithau'n gorf od eistedd ar ystol y gosb, a chap y gwarth am ei phen. Ond waeth heb son, ne fedrai Gwen ddim dysgu, er ei bod wedi treio ei goreu. Ond yr oedd yn un o'r genethod bach mwynaf a charedicaf yn yr holl wlad. Medrai ddweyd y gwir, medrai wneyd pob peth ddywedai ei mam wrthi, a medrai gadw ei brodyr bach yn ddiddig, - ac onid ydyw hyn yn llawer mwy na medru gwneyd sym ?
Beth yw ystyr y gair dunce sydd ar y cap ? Enw dyn ydyw, enw Duns Scotus. Ysgolhaig mawr oedd ef, ond daeth pobl eiddilach ar ei ol, a thybient nad oedd Duns yn ddim o'i gydmaru a hwy, a galwasant bawb byr ei ddeall yn dunce.
Gwn ll mae Gwen heddyw. Y mae ei chalon hael, garedig, yn ei gwyneyd llawer gwaith mil anhaws na "multiply 213 by 2."
Peth anodd ydyw dysgu; ond y mae plant bach ufudd yn siwr o ddysgu'n iawn, ond iddynt dreio, a chael digeon o amser. Owen Morgan Edwards (26 December 1858 – 15 May 1920)
Posted 17:46
|
No comments
|
Post a Comment:
|
|
|
|
|