Happy Homepage
Akira Avenue
Angels A to Z
Ayliyah Avenue
Brody Close
Bruno's Bedtime
Choocho Station
Comfort Valley
Corey's Castle
Dinah's Drive
Dino's Burger.
Dionne Bridge
Disney Drive
Donna's Diner
Fairy Square
Ffordd Llyfr
Ha-Ha Arcade
Happy Mansions
Jaimie's Zoo
J.J's Junction
Jo's Galleon
K. K's Square
Kid's House
Kid's Treasury
Kindness Street
King P. Palace
Knock Meadow
Lily's Yard
Monty's Circus
Minnie Marsh
Molly Melody
Noah's Ark
Nonsense Avenue
Nursery Land
Odhran's Tale
Pastimes
Penguin Avenue
Pleasure Land
Pooh's Park
Princess Way
Prudence Close
Prince's Alley
Queen P Palace
Rabbit's Warren
Sage Rise
Scotch Corner
Scrap City
Spiggy Square
Studio Ghibli
Sunday School
Tilly Teapot
Toby Bucket
Unicorn Meadow
Merry - Land
Blog
Photo's
Diddily Dee Dot's Dreamland for Children Everywhere
Blog
Subscribe: Add to Google Add to My Yahoo! Subscribe in NewsGator Online Add to My AOL


Tue, 07 Sep 2010
Cosyn Melyn Bach - The little Yellow Flower - Wales have many famous authors, and writers of poems and films. You will find a translater by right click - bottom click - page info

Cowslip - from the same family LLYFR DEL Little Primroses - Cosyn Melyn Bach

Cosyn Melyn Bach yn Mynd i Nl Burum i Mam

Little Yellow Rose is going back to Mother Yeast
Gan,   Gwilym Roberts

Cosyn Melyn Bach yn mynd ar daith go bell i nl burum i mam, ac mi ddoth ar draws dyn yn torri [gwair]. [Yna ar draws dyn yn torri clawdd.]

'Ble rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?' medde'r dyn oedd yn torri clawdd.

'I nl burum i mam', medde fo.

A dyma'r hen ddyn 'ma'n trio hitio Cosyn Melyn Bach efo cryman.

'Wel, dwi 'di dod heibio dyn yn torri gwair, ac mi 'i heibio chitha, os galla'i', medde Cosyn Melyn Bach. A dyma fo jymp yn 'i flaen . A mi ath am bwl wedyn a dod ar draws dyn yn torri mawn. A dyma hwnnw'n gofyn:

'Lle rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?'

'I nl burum i mam', medde fo, 'dwi wedi dwad heibio dyn yn torri gwair, heibio dyn yn torri clawdd, ac mi 'i heibio chitha, os galla'i', medde fo, felna. A dyma'r hen ddyn 'ma'n ceisio hitio Cosyn Melyn Bach hefo coes huarn torri mawn.

A mi ath yn 'i flaen wedyn, ac odd hi'n dechre twyllu erbyn hyn. A dyma Cosyn Melyn Bach yn dwad i ryw hen goed mawr, ac yn 'i flaen ath o, a dyma ryw hen lew mawr yn dod i'w gwfwr o yn y coed 'ma. Dyma'r hen lew yn gofyn i Cosyn Melyn Bach:

'Lle rwyt ti'n mynd, Cosyn Melyn Bach?'

'I nl burum i mam', medde fo, felna.

'Tyrd ar fy nghefn i', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach.

'Na, na, wir', medyde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medde fo, felna.

'Wel, tyrd ar fy ngwar i, 'te', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach.
'Na, na, wir', medde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medde fo, felna.

'Wel, tyrd ar fy mhen i, 'te', medde fo wrth Cosyn Melyn Bach.

'Na, na, wir, mae'ch ofn chi arna i', medde fo, felna.

'Wel, tyrd ar fy nhrwn i, 'te', medde'r hen lew 'ma wrth Cosyn Melyn Bach. A Cosyn Melyn Bach wedi mynd rwan odd o'n crynu fel deilen, ac ofn ofnadwy, a hithe'n dechre mynd yn nos. 'Tyrd ar fy nhrwyn i', medde'r hen lew 'ma.

'Na, na, wir', medde Cosyn Melyn Bach, 'mae gen i ormod o'ch ofn chi', medda fo, felna.

A dyma'r hen lew 'ma yn neidio amdano fo, ac 'AWCH!', medde fo , felna, a dyma fo'n llyncu Cosyn Melyn Bach. [Chwerthin]

Posted 17:59

No comments


Post a Comment:




site  zoomshare